EIN NEUADD, EIN HANES
OUR HALL, OUR HISTORY
The hall was funded by contributions from local people and was built and opened in the 1930s on the site of what was once a woollen mill. In the last 90 years the hall has been a community space for gatherings of all kinds - carnivals; youth clubs; funerals; birthdays; whist and beetle drives; amateur dramatics; twmpaths and so so much more.
Our Village Hall is also known as the Owain Glyndŵr Memorial Hall as Glyndyfrdwy’s history is intertwined with that of Wales’ great warrior Owain Glyndŵr. You can find out more about his history here. Owain Glyndŵr had his manor in Glyndyfrdwy and was proclaimed Prince of Wales on that site in 1400 and that was the start of 15 years of rebellion against the ruling classes. It was burnt to the ground by English troops in 1403. You can still spot where the house was on particularly wet days as the moat still appears!
Despite all the changes the recent decades has seen for the village - the closing of the primary school and shops - the hall remains at the heart of our community and continues to be run by a small team of volunteers.
Glyndyfrdwy Village Hall is supported financially by income received from hires, village events, and other fundraisers. The money is used to keep the building in good repair for use within the community. If you’re able to support the hall in any way then please get in touch.
Thanks kindly to Ruth Lee, who have funded the upkeep of the Defibrilator which is located at the outside front of the hall.
This website was kindly funded by Corwen Town Council
Adeiladwyd y neuadd gyda chymorth cyfraniadau gan bobl leol a’i hagor yn y 1930au ar safle hen felin wlân. Yn ystod y 90 mlynedd diwethaf, mae’r neuadd wedi bod yn leoliad cymunedol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau - carnifalau; clybiau ieuenctid; angladdau; penblwyddi; chwarae whist a chaeau ceiliog; drama amatur; twmpathau a llawer iawn mwy.
Mae ein Neuadd Bentref hefyd yn cael ei hadnabod fel Neuadd Goffa Owain Glyndŵr gan fod hanes Glyndyfrdwy wedi’i blethu’n dynn gyda hanes arwr mawr Cymru, Owain Glyndŵr. Gallwch ddarganfod mwy am ei hanes yma. Roedd Owain Glyndŵr yn byw mewn maenor yng Nglyndyfrdwy, a chafodd ei ddatgan yn Dywysog Cymru ar y safle hwnnw yn 1400, gan gychwyn 15 mlynedd o wrthryfel yn erbyn y dosbarthiadau rheoli. Cafodd ei losgi i’r llawr gan fyddin Lloegr yn 1403. Gallwch weld lle’r oedd y tŷ ar ddiwrnodau arbennig o lawog gan fod y ffos dal i ymddangos!
Er gwaethaf yr holl newidiadau a welwyd yn y pentref yn ystod y degawdau diwethaf - cau’r ysgol gynradd a’r siopau - mae’r neuadd yn parhau i fod yn ganolbwynt i’n cymuned ac yn dal i gael ei rhedeg gan dîm bach o wirfoddolwyr.
Mae Neuadd Bentref Glyndyfrdwy yn cael cefnogaeth ariannol gan incwm a dderbynnir o logi, digwyddiadau’r pentref, a chodi arian arall. Defnyddir yr arian i gadw’r adeilad mewn cyflwr da i’w ddefnyddio gan y gymuned. Os ydych chi’n gallu cefnogi’r neuadd mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni.
Diolch o galon i Ruth Lee, sydd wedi ariannu gwaith cynnal a chadw’r diffibriliwr sydd wedi’i leoli tu allan i flaen y neuadd.
A diolch hefyd i Gyngor Tref Corwen, sydd wedi ariannu’r wefan hon.